Resources for professionals Resources and guidance Schools / further education Guidance in Welsh for schools Egluro marwolaeth a marw i blant A yw'n dda bod yn onest gyda phlant am farwolaeth a marw? Mae plant a phobl ifanc eisiau ac angen oedolion i fod yn onest, yn enwedig wrth siarad am farwolaeth a galar. Os na ddywedwn ni'r gwir wrthynt, gall eu dychymyg gweithredol lenwi'r bylchau yn aml â syniadau anghywir mwy brawychus. Am arweiniad pellach: Telling a child that someone has died (Sylwch fod yr adnodd hwn yn Saesneg) Sut gallaf esbonio i blentyn beth sy'n digwydd pan fydd rhywun yn marw? Mae esboniad biolegol syml o farwolaeth yn ddefnyddiol: mae'r galon yn stopio curo, nid yw'r ysgyfaint yn gweithio felly ni all y person anadlu, ac mae ei ymennydd yn stopio gweithio. Gall cyfeirio at y corff a adawyd fel cragen wag eu helpu i ddeall nad yw'r person bellach yn fyw fel yr oedden nhw'n ei adnabod. Os oes gan y teulu unrhyw gredoau, yna gellir cyflwyno'r rhain. Gall fod yn ddefnyddiol esbonio, pan fydd rhywun yn marw, na allant deimlo gwres nac oerni, nac eisiau bwyd neu ddiod, ac nad ydynt mewn poen. Mae hefyd yn bwysig iddynt ddeall y bydd y person yn aros yn farw, faint bynnag y byddwn ni'n dymuno iddo ddod yn ôl yn fyw fel yr oedd. Am arweiniad pellach: Children's understanding of death at different ages (Sylwch fod yr adnodd hwn yn Saesneg) Pa fath o iaith ddylwn i ei defnyddio i egluro marwolaeth a marw i blentyn? Gall ymadroddion fel 'wedi mynd i gysgu' neu 'wedi marw' neu eiriau fel 'wedi mynd' neu 'ar goll' deimlo'n fwy caredig ond maent yn gamarweiniol a gallant arwain at ddryswch; er enghraifft, rydym yn annog plant i 'ganfod' pethau y maen nhw wedi'u 'colli' felly gallant barhau i chwilio am y person sydd wedi marw. Yn yr un modd, gall defnyddio'r term 'wedi mynd i gysgu' eu harwain at gysylltu mynd i gysgu â marw a all arwain at ofidiau amser gwely. Beth ddylwn i ei ddweud os yw plentyn yn teimlo'n ofidus pan fyddwn ni'n siarad am farwolaeth neu farw? Gall siarad am farwolaeth arwain at adweithiau emosiynol. Gall hyn deimlo’n anodd, ond drwy gydnabod hyn a siarad yn agored am farwolaeth a galar, gall helpu plant a phobl ifanc i ymddiried yn yr oedolion o’u cwmpas. Bydd hefyd yn eu hannog i ofyn cwestiynau, rhannu unrhyw bryderon a mynegi eu teimladau. Beth ddylwn i ei ddweud wrth blentyn os ydw i'n teimlo'n ofidus pan fyddaf i'n siarad am farwolaeth neu farw? Mae plant yn dysgu oddi wrth yr oedolion o'u cwmpas, felly os ydych chi'n profi adwaith emosiynol, mae'n well cydnabod eich teimladau wrth roi sicrwydd iddynt y byddwch chi'n iawn mewn eiliad. Bydd hyn yn eu helpu i wybod ei bod yn iawn mynegi eu teimladau eu hunain. Sut allaf i ateb cwestiynau mae plant yn aml yn eu gofyn am farwolaeth neu farw? Er gall deimlo'n eithaf brawychus, mae'n bwysig ateb unrhyw gwestiynau mor onest a llawn â phosibl. Er gallai ymddangos yn demtasiwn ceisio tynnu meddwl plant a phobl ifanc, gall hyn achosi iddynt fynd yn fwy pryderus na chlywed y gwir. Fyddaf i'n marw? Fyddwch chi'n marw? Pam mae pobl yn marw? Pryd fyddaf i'n marw? I ateb y cwestiynau hyn, gall helpu i egluro bod popeth byw yn marw, bod hyn yn rhan o gylch bywyd. Fel pethau byw, bydd pobl hefyd yn marw. Gallwch roi sicrwydd iddynt fod y rhan fwyaf o bobl yn hen iawn pan fyddan nhw'n marw. Gall fod o gymorth i’w hatgoffa o’r holl bobl sydd ganddyn nhw yn eu bywydau ac i feddwl am yr holl bethau y maen nhw'n dymuno eu cyflawni yn eu bywydau, y lleoedd yr hoffent ymweld â nhw, y swyddi y gallent fod eisiau eu gwneud, eu gobeithion a’u breuddwydion. Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n marw? I ble ydych chi'n mynd pan fyddwch chi'n marw? Gall fod o gymorth i ddechrau gydag esboniad biolegol syml o farwolaeth; mae'r galon yn stopio curo, mae'r person yn stopio anadlu ac mae ei ymennydd yn stopio gweithio. Efallai yr hoffai plant iau deimlo eu hanadl yn mynd i mewn ac allan a’u calon yn curo i’w helpu i ddeall. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd cyfeirio at y corff fel cragen wag. Mae rhai pobl ifanc eisiau gwybod beth sy'n digwydd i'r corff, er enghraifft rhwng marwolaeth ac angladd. Gallai hyn yn naturiol arwain at drafodaeth am gredoau, seremonïau neu ddefodau. Efallai byddwch chi'n dweud, "Mae rhai pobl yn credu ... ac eraill yn meddwl ...", neu nad ydych chi'n siŵr beth sy'n digwydd pan fydd rhywun yn marw. Gall fod yn gyfle da i ofyn iddyn nhw beth yw eu barn a chael trafodaeth gyda nhw. Allwn ni atal pobl rhag marw? Mae’n bwysig eu hatgoffa nhw bod pobl yn marw oherwydd ein bod ni’n bethau byw, yn union fel planhigion ac anifeiliaid. Ar gyfer plant iau, efallai y byddai’n ddefnyddiol siarad am y rhan fwyaf o bobl yn hen a’u cyrff wedi blino’n lân, ond gall pobl iau farw os oes ganddynt salwch neu anafiadau difrifol na ellir eu gwella. Ar gyfer plant hŷn, gall fod yn ddefnyddiol trafod sut na allwn ni newid y ffaith bod rhywun wedi marw ond efallai y byddwn ni'n ystyried yr hyn y gallwn ei ddysgu am wella triniaethau neu ganllawiau diogelwch i helpu eraill yn y dyfodol. Anogwch bobl ifanc i ystyried pa fath o bethau sy’n eu helpu i fyw bywydau iach – fel bwyta’n iach, cadw’n ddiogel a gofalu amdanyn nhw eu hunain ac eraill. Eglurwch fod meddyginiaethau a thriniaethau ar gyfer salwch a damweiniau'n wastad cael eu gwella a bod pobl heddiw yn byw bywydau hirach ac iachach nag yn y gorffennol. Pam ydych chi'n crïo? Os byddwch chi'n profi adwaith emosiynol wrth siarad am farwolaeth gyda phlentyn neu berson ifanc, mae'n well cydnabod eich teimladau a rhoi sicrwydd iddynt y byddwch chi'n iawn mewn eiliad. Efallai y byddwch chi'n dweud wrthyn nhw eich bod chi hefyd yn ei chael hi'n anodd siarad am y farwolaeth, neu'ch bod chi hefyd yn teimlo'n drist. Bydd hyn yn eu helpu i wybod ei bod yn iawn mynegi eu teimladau eu hunain. Gweler ein hystod o ffilmiau canllaw byr ar bynciau cysylltiedig. (Sylwch fod yr adnoddau hyn yn Saesneg) Children's understanding of death at different ages Explaining to a child that someone has died Explaining stillbirth or miscarriage to a young child How do I explain a funeral to a young child? Returning to school after someone has died For teachers when a pupil returns to school after being bereaved Supporting a bereaved child who is autistic Supporting a child after a frightening event How can I support a grieving young child? Manage Cookie Preferences