Resources for professionals Resources and guidance Schools / further education Guidance in Welsh for schools Cefnogi myfyriwr galarus yn yr ysgol uwchradd Mae disgyblion ysgol profedigaethus angen sefydlogrwydd a gaith ei roi gan trefn gyfarwydd gyda oedolion gofalgar. Bob 22 munud mae rhiant o blentyn dibynnol yn marw yn y DU Mae hyd at 70% o ysgolion hefo ddisgybl mewn profedigaeth ar eu cofrestr ar unrhyw adeg benodol Bydd 92% o bobl ifanc yn profi profedigaeth sylweddol cyn 16 oed Delio gyda profedigaeth: Canllaw i ysgolion cynradd (Sylwch fod yr adnodd hwn yn Saesneg) Mae’r canllaw hwn yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho ac mae’n cynnig arweiniad, cefnogaeth a gwybodaeth i ysgolion a lleoliadau addysgol pan fydd marwolaeth yn digwydd yng nghymuned yr ysgol, pan fydd ysgol yn wynebu marwolaeth ddisgwyliedig neu pan fydd disgybl yn wynebu profedigaeth. Cyswlltwch â chartref Bydd cael cyswllt da gyda’r teulu yn eich galluogi chi i gael mynediad at wybodaeth gywir, i ddeall beth mae'r myfyriwr wedi cael ei ddweud, ac i dawelu meddwl y rhai sy’n gofalu am y person ifanc. Cofiwch i rannu llwyddiannau’r myfyriwr yn ogystal ag unrhyw bryderon sydd gennych chi.Gall pobl ifanc sy’n galaru arddangos ymddygiadau newidiol mewn gwahanol sefyllfaoedd a bydd cyfathrebu yn effeithiol gyda’r cartref yn rhoi darlun mwy realistig o sut mae’r myfyriwr yn ymdopi. Mae pobl ifance angen gwybodaeth Yn naturiol, mae oedolion eisiau amddiffyn, ond mae gan pobl ifanc lawer mwy o allu i ddelio â realiti llym bywyd nag rydym yn sylweddoli, cyn belled ag y ddywedir iddynt mewn ffordd briodol. Bydd dweud y gwir dal yn well nag ansicrwydd a dryswch. Bydd person ifanc yn chwilio am y gwir, ac efallai byddynt yn gweld hi'n anodd iawn os ydynt yn clywed manylion o tu allan i'r teulu. Peidiwch â bod ofn defnyddio'r gair "marw." Efallai ei fod yn teimlo’n llym, ond mae gorfoleddau fel “ar goll” neu “wedi mynd i ffwrdd” dim ond yn creu dryswch a chamddealltwriaeth. Dealltwriaeth plant o farwolaeth ar wahanol oedrannau (Sylwch fod yr adnodd hwn yn Saesneg) Mae pobl ifanc yn aeddfedu ar gyflymderau gwahanol ac mae eu dealltwriaeth a’u hymatebion i brofedigaeth yn debygol o fod yn seiliedig cymaint ar eu profiadau bywydol ag ar eu hoedran cronolegol. Erbyn oedran ysgol uwchradd, bydd rhan fwyaf o ddisgyblion yn deall natur anochel a pharhaol o farwolaeth. Efallai byddynt yn gweld marwoldeb eu hunain ac y pobl sydd yn ago iddynt yn anodd. Mae'n bosib byddynt yn arddangos hyn drwy gymryd rhan mewn ymddygiad peryglus er mwyn gwrthod ystyried y posibilrwydd o farwolaeth. Gall berson ifanc herio credoau a disgwyliadau o bobl eraill ynglŷn â sut ddylai nhw deimlo neu'n ymddwyn; mae marwolaeth hefyd yn cynyddu pryderion am y dyfodol a gallant gwestiynu beth yw ystyr bywyd. Beth sy'n helpu plant a phobl ifanc sy'n galaru (Sylwch fod yr adnodd hwn yn Saesneg) Bydd pobl ifanc, fel oedolion, yn galaru mewn gwahanol ffyrdd a bydd eu hymatebion i brofedigaeth yn dibynnu ar eu hoedran, eu dealltwriaeth, ac eu perthynas gyda'r person a fu farw.Mae'n bwysig osgoi rhagdybio sut mae nhw'n teimlo. Byddwch yn ymwybodol o newidiadau mewn perthnasoedd. Efallai y bydd disgybl galarus yn canfod nad yw eu cyfoedion yn gwybod beth i’w ddweud neu gwneud, a gall hyn arwain at ynysu ac unigrwydd. Nid yw sylwadau ansensitif neu sylwadau fwriadol amhriodol yn anarferol. Gofynnwch i fyfyriwr profedigaethus i feddwl am yr hyn y mae ei angen a'i eisiau gan eu ffrindiau, athrawon ac oedolion yn yr ysgol. Bydd hyn yn cynnig elfen o reolaeth iddyn nhw ac yn rhoi eglurder i'r rhai sydd eisiau helpu. Mae pobl ifanc profedigaethus yn dweud wrthym eu bod nhw'n croesawu’r hyblygrwydd i adael gwersi os ydynt yn cael eu llethu’n annisgwyl gan eu teimladau o alar, cyn belled nad yw hyn yn cael ei weld fel ‘ymddygiad gwael’ gan aelodau o staff yr ysgol. Egluro angladdau, claddedigaethau ac amlosgiadau (Sylwch fod yr adnodd hwn yn Saesneg) Efallai bydd person ifanc yn gwybod beth yw angladd, ond heb unrhyw syniad o beth sy'n digwydd a beth a yn cael eu ddisgwyl ohonnynt. Mae’n bwysig i sicrhau eu bod nhw'n cael cyfle i siarad am yr angladd ac i ofyn unrhyw gwestiynau. Efallai y bydd teulu yn eich gofyn am gyngor ar fynd a disgybl i angladd, ac mae rhai teuluoedd yn pryderu bod angladd yn ddefod rhy “oedolyn” i blant. Pan fydd rhywun yn marw, mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael rhywfaint o gysur o'r cyfle i ffarwelio mewn angladd.Dydi o ddim yn wahanol i bobl ifanc. Cyn belled â'u bod wedi eu paratoi ac wedi cael dewis a os ydyn nhw eisiau bod yno neu beidio, ddylai nhw yn ei weld y brofiad yn defnyddiol. Gallech chi sicrhau iddynt nad yw unrhyw un o’r plant a phobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi yn Child Bereavement UK wedi difaru dewis mynd i angladd rhywun arbennig iddynt. Roedd y rhai heb yr opsiwn hon yn ddig iawn am beidio â chael eu cynnwys, er bod y penderfyniad hwn wedi'i wneud gyda'r bwriadau gorau iddyn nhw. Cydnabod beth sydd wedi digwydd Y peth mwyaf defnyddiol y gallwch chi ei wneud i blant sy'n galaru yw cydnabod yr hyn sydd wedi digwydd. Cadwch hi'n syml iawn, “Mae'n ddrwg iawn gen i glywed bod *** wedi marw, mae hynny'n beth trist iawn i fod wedi digwydd.” Efallai fydd anfon cerdyn yn briodol, gallai hwn fod gan y dosbarth os nad yw'r plentyn yn mynychu'r ysgol am ychydig o ddyddiau. Bydd hyn yn eu helpu nhw i gadw mewn cysylltiad â'r ysgol. Byddwch yn ymwybodol nad efallai ydynt yn deall yn iawn beth mae bod yn farw yn ei olygu, ac mae'n bwysig i gyfeirio unrhyw ansicrwydd, ac i sicrhau nhw. Ceisiwch i ateb cwestiynau yn onest Y peth mwyaf defnyddiol y gallwch chi ei wneud i disgyblion sy'n galaru yw cydnabod yr hyn sydd wedi digwydd. Cadwch hi'n syml iawn, “Mae'n ddrwg iawn gen i glywed bod *** wedi marw." Cynnig dewisiadau syml Disgrifiwyd profedigaeth ynghyd â chynnwrf ieuenctid fel “perygl dwbl”. Gall person ifanc mewn profedigaeth deimlo'n llethol ac fel eu bod allan o reolaeth. Trwy gynnig dewisiadau syml, gall yr ysgol helpu disgybl i deimlo bod ganddynt reolaeth dros o leiaf un agwedd o eu bywydau, yn enwedig sut maent yn rheoli eu galar yn yr ysgol. Ceisiwch i ateb cwestiynau yn onest Mae'n bwysig darganfod beth sydd wedi cael ei ddweud i'r disgybl adref achos bydd esboniadau amrywiol yn ddryslyd iddyn nhw. Mae oedolion yn fodelau rôl, felly mae'n cymwynasgar pe bai pawb yn gallu cymryd yr un dynesiad. Mae pobl ifanc angen amgylchedd derbynnol a chefnogol lle maent yn teimlo'n ddiogel i ofyn cwestiynau a rhannu eu teimladau. Bydd yr hyn oeddent yn ddeall pan oeddent yn fengach yn wahanol i'w ddealltwriaeth presennol, ac fydd yr effaith o beth sydd wedi digwydd yn debygol i newid a ddyfnhau. Efallai byddynt angen esboniadau manylach yn unol â'u haeddfedrwydd, a byddynt angen eglurhad gwell am beth sydd wedi digwydd. Pan fyddant yn gofyn cwestiynau anodd na allwch eu hateb, gofynnwch i'r myfyriwrbeth yw eu barn nhw, neu gofynnwch a beth maent wedi'w cael eu dweud ar hyn o bryd a pwy allai roi y gwybodaeth mae nhw angen. Gwella hunan-barch Gall pobl ifanc galarus brofi teimladau o hunanwerth isel a diffyg hunan-barch. Fodd bynnag, yn aml mae ganddynt aeddfedrwydd llawer gwell na fysa eu oedran yn awgrymu, gallant gael werthfawrogiad fwy o werth bywyd na'u cyfoedion, ac a gallant fod yn llai beirniadol i gymharu a'u cyfoedion. Mae’r rhain yn briodoleddau teilwng iawn i’w hamlygu i berson ifanc sy’n cael trafferth meddwl amdan eu hunain mewn ffordd gadarnhaol. Oedolion fel modelau rôl Os ydi'r oedolion o'u cwmpas yn gallu mynegi eu hemosiynau, bydd person ifanc yn gwybod ei fod yn iawn i wneud yr un peth. Mae’r bobl ifanc rydym ni’n gweithio gyda yn Child Bereavement UK yn dweud wrthym ein bod nhw'n ffafrio cefnogaeth oedolion maen nhw yn adnabod ac yn ymddiried yn barod. Mae cymryd rhan mewn gweithgaredd yn helpu plentyn yn eu harddegau i deimlo llai o bwysau i siarad. Weithau mae'n ddigon i fod hefo oedolyn maent yn gwybod sydd yn gofalu amdanynt. Pan fyddynt yn barod, efallai y byddant yn dechrau sgwrs am yr hyn sydd wedi digwydd, ond peidiwch â'i ddisgwyl hyn i ddigwydd. Rhowch sicrwydd Gall pobl ifanc yn eu harddegau sy’n galaru deimlo wedi’u llethu’n llwyr gan deimladau ac emosiynau pwerus nad ydynt yn eu deall nac yn eu disgwyl. Efallai nad ydyn nhw hyd yn oed yn gwybod sut maent yn teimlo, felly ni ddylai oedolion ddisgwyl iddyn nhw allu ateb y cwestiwn, “Sut wyt ti?” Gall fod yn fwy defnyddiol i ofyn sut mae pethau adref, i fod yn hyblyg gyda therfynau amser gwaith cartref neu i gynnig cymorth i ddal i fyny ag unrhyw waith maent wedi’w golli arno. Gall y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd fod yn amser arbennig o anodd i ddisgybl sy'n galaru. Daw arferion yn bwysig iddynt a gallant ymateb i newid yn yr ysgol. Gall pobl ifanc deimlo’n amharod i fod i ffwrdd oddi wrth aelodau teulu neu bobl sylweddol yn eu bywydau, yn enwedig ar dripiau ysgol neu arosiadau dros nos. Ceisiwch eu paratoi nhw ymlaen llaw os posib ar gyfer unrhyw newidiadau, ac cyfeiriwch ag unrhyw bryderon a allai fod ganddynt. Manage Cookie Preferences