Resources for professionals Resources and guidance Schools / further education Guidance in Welsh for schools Cefnogi disgybl profedigaethus mewn ysgol cynradd Gwybodaeth i athrawon, cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr cymorth dysgu, penaethiaid, swyddogion lles addysg ac oedolion eraill sy'n gweithio mewn ysgolion. Mae disgybl profedigaethus angen sefydlogrwydd a gaith ei roi gan trefn gyfarwydd gyda oedolion gofalgar. Bob 22 munud mae rhiant o blentyn dibynnol yn marw yn y DU Mae hyd at 70% o ysgolion hefo ddisgybl mewn profedigaeth ar eu cofrestr ar unrhyw adeg benodol Bydd 92% o bobl ifanc yn profi profedigaeth sylweddol cyn 16 oed Delio gyda profedigaeth: Canllaw i ysgolion cynradd (Sylwch fod yr adnodd hwn yn Saesneg) Mae’r canllaw hwn yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho ac mae’n cynnig arweiniad, cefnogaeth a gwybodaeth i ysgolion a lleoliadau addysgol pan fydd marwolaeth yn digwydd yng nghymuned yr ysgol, pan fydd ysgol yn wynebu marwolaeth ddisgwyliedig neu pan fydd disgybl yn wynebu profedigaeth. Cyswlltwch â chartref Bydd cael cyswllt da gyda’r teulu yn eich galluogi chi i gael mynediad at wybodaeth gywir, i ddeall beth mae'r disgybl wedi cael ei ddweud, ac i dawelu meddwl y rhai sy’n gofalu am y plentyn. Cofiwch i rannu llwyddiannau’r plentyn yn ogystal ag unrhyw bryderon sydd gennych chi.Gall plant sy’n galaru arddangos ymddygiadau newidiol mewn gwahanol sefyllfaoedd a bydd cyfathrebu yn effeithiol gyda’r cartref yn rhoi darlun mwy realistig o sut mae’r plentyn yn ymdopi. Mae plant angen gwybodaeth Yn naturiol, mae oedolion eisiau amddiffyn, ond mae gan blant lawer mwy o allu i ddelio â realiti llym bywyd nag rydym yn sylweddoli, cyn belled ag y ddywedir iddynt mewn ffordd briodol. Bydd dweud y gwir dal yn well nag ansicrwydd a dryswch. Beth mae plentyn ddim yn ei wybod ydi eu bod nhw'n tueddu i ddychmygu, a gall ei ffantasïau fod yn drallodus iawn iddynt ac yn anodd iddynt delio â nhw. Peidiwch â bod ofn defnyddio'r gair "marw." Efallai ei fod yn teimlo’n llym ond mae clodfori fel “ar goll” neu “wedi mynd i ffwrdd” dim ond yn creu dryswch a chamddealltwriaeth mewn plant sy’n cymryd yr hyn maent wedi clywed ar werth wyneb. Dealltwriaeth plant o farwolaeth ar wahanol oedrannau (Sylwch fod yr adnodd hwn yn Saesneg) Mae plant yn aeddfedu ar gyflymderau gwahanol ac mae eu dealltwriaeth a’u hymatebion i brofedigaeth yn debygol o fod yn seiliedig cymaint ar eu profiadau bywydol ag ar eu hoedran cronolegol. Erbyn tua 7 oed, mae mwyafrif o blant yn sylweddoli bod marwolaeth yn barhaol. Wrth iddynt heneiddio, mae plant yn dod yn ymwybodol o anochelrwydd marwolaeth ac yn datblygu ymwybyddiaeth cynyddol o marwoldeb eu hunain. Sut mae plant yn galaru (Sylwch fod yr adnodd hwn yn Saesneg) Bydd plant, fel oedolion, yn galaru mewn gwahanol ffyrdd a bydd eu hymatebion i brofedigaeth yn dibynnu ar eu hoedran, eu dealltwriaeth, ac eu perthynas gyda'r person a fu farw. Mae'n gallu fod yn anodd i ddisgybl profedigaethus oherwydd gallynt deimlo’n wahanol i’w gyfoedion ac fedrwn nhw weld hi'n anodd cysylltu gyda'i ffrindiau. Yn yr un modd, gall ffrindiau ifanc weld hi'n anodd i rhyngweithio â rhywun sydd mewn profedigaeth. Meithrinwch y perthnasoedd hyn trwy ofyn i ddisgybl profedigaethus beth maent eisiau gan eu ffrindiau ac yna cefnogiwch bobl ifanc hyn wrth iddynt ddatblygu eu cyfeillgarwch. Mae rhai disgyblion mewn profedigaeth yn teimlo'n unig iawn a gallant elwa o gyfleoedd i gwrdd â phobl ifanc eraill profedigaethus. Egluro angladdau, claddedigaethau ac amlosgiadau i blant (Sylwch fod yr adnodd hwn yn Saesneg) Dim ond os ydynt wedi cael profiad o farwolaeth rhywun y maent yn ei adnabod yn flaenorol y bydd rhan fwyaf o blant yn gwybod beth yw angladd. Efallai y bydd teulu yn eich gofyn am gyngor ar fynd â’u plentyn i angladd, ac mae rhai teuluoedd yn pryderu bod angladd yn ddefod rhy “oedolyn” i blant. Pan fydd rhywun yn marw, mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael rhywfaint o gysur o'r cyfle i ffarwelio mewn angladd.Dydi o ddim yn wahanol i blant. Cyn belled â'u bod wedi eu paratoi ac wedi cael dewis a os ydyn nhw eisiau bod yno neu beidio, ddylai nhw yn ei weld y brofiad yn defnyddiol. Gallech chi sicrhau iddynt nad yw unrhyw un o’r plant a phobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi yn Child Bereavement UK wedi difaru dewis mynd i angladd rhywun arbennig iddynt. Roedd y rhai heb yr opsiwn hon yn ddig iawn am beidio â chael eu cynnwys, er bod y penderfyniad hwn wedi'i wneud gyda'r bwriadau gorau iddyn nhw. Cydnabod beth sydd wedi digwydd Y peth mwyaf defnyddiol y gallwch chi ei wneud i blant sy'n galaru yw cydnabod yr hyn sydd wedi digwydd. Cadwch hi'n syml iawn, “Mae'n ddrwg iawn gen i glywed bod *** wedi marw, mae hynny'n beth trist iawn i fod wedi digwydd.” Efallai fydd anfon cerdyn yn briodol, gallai hwn fod gan y dosbarth os nad yw'r plentyn yn mynychu'r ysgol am ychydig o ddyddiau. Bydd hyn yn eu helpu nhw i gadw mewn cysylltiad â'r ysgol. Byddwch yn ymwybodol nad efallai ydynt yn deall yn iawn beth mae bod yn farw yn ei olygu, ac mae'n bwysig i gyfeirio unrhyw ansicrwydd, ac i sicrhau nhw. Ceisiwch i ateb cwestiynau yn onest Cadwch yr iaith yn syml ac yn addas i'r oedran. Mae'n bwysig darganfod beth sydd wedi cael ei ddweud i'r plentyn adref achos bydd esboniadau amrywiol yn ddryslyd iddyn nhw. Mae oedolion yn fodelau rôl, felly mae'n cymwynasgar pe bai pawb yn gallu cymryd yr un dynesiad. Mae plant angen amgylchedd derbynnol a chefnogol lle maent yn teimlo'n ddiogel i ofyn cwestiynau a rhannu eu teimladau. Pan fyddant yn gofyn cwestiynau anodd na allwch eu hateb, gofynnwch i'r plentyn beth yw eu barn nhw, neu gofynnwch a beth maent wedi'w cael eu dweud. Oedolion fel modelau rôl Os ydi'r oedolion o'u cwmpas yn gallu mynegi eu hemosiynau, bydd plentyn yn gwybod ei fod yn iawn i wneud yr un peth. Anogwch a helpwch nhw i fynegi teimladau trwy roi cyfleoedd trwy chwarae a gweithgareddau eraill. Efallai y byddant yn chwarae eu bod nhw wedi marw, ac er y gallai hyn aflonyddu oedolion, dyma sut mae plant yn gwneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas. Gall peintio, darlunio neu unrhyw weithgareddau crefft roi cyfle i ddisgybl profedigaethus ffocysu ar rywbeth ymarferol a allai ei helpu nhw i siarad am eu teimladau. Byddwch yn barod i ailadrodd esboniadau a gwybodaeth Bydd yr hyn oeddent yn ddeall pan oeddent yn fengach yn wahanol i'w ddealltwriaeth rwan, ac ar wahanol cofnodau eraill yn eu datblygiad. Bydd ystyr ac effaith yr hyn sydd wedi digwydd yn newid ac yn dyfnhau. Gellir ailadrodd cwestiynau mewn ymateb i'w hangen am esboniadau manylach yn unol â'u dealltwriaeth. Rhowch sicrwydd Pan mae rhywun agos atynt yn marw, gall y byd ddod yn lle brawychus iawn i blentyn, ac efallai y byddynt yn dechrau meddwl tybed pwy arall sy'n mynd i'w gadael. Gall plant deimlo’n amharod i fod i ffwrdd oddi wrth aelodau teulu neu bobl sy’n bwysig iddynt, yn enwedig ar dripiau ysgol neu arosiadau dros nos. Bydd arferion yn dod yn bwysig iddynt a gallant ymateb i newidiadau yn amgylchedd yr ysgol. Ceisiwch eu paratoi nhw ymlaen llaw os posib, ac cyfeiriwch ag unrhyw bryderon a allai fod ganddynt. Manage Cookie Preferences